English Version
      

Croeso i Abaty’r Groes, Hendy-gwyn

Mae Abaty’r Groes, Hendy-gwyn ar Daf, yn sefyll ar ochr bryn sy’n edrych dros ddyffryn llydan gyda mynyddoedd Preseli yn y cefndir tu hwnt. Lle o dagnefedd a harddwch naturiol mawr ydyw, ac y mae’n berffaith at fywyd mynachaidd o weddi a moliant – lle i orffwys ac adnewyddu’r ysbryd ar gyfer y rhai sy’n ymweld â ni. Rydym tua dwy awr o Gaerdydd ar hyd y fford neu ar y trên, ond miliwn o filltiroedd i ffwrdd os cymherir prysurdeb prifddinas ag erwau mwyn Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru.

Rydym yn perthyn i Urdd fyd-eang y Sistersiaid, yn fynaich a lleianod. Fe gewch wybodaeth ynglyn â thai eraill ein Hurdd wrth ymweld â www.ocso.org.


Holy Cross Abbey, Whitland, Wales, SA34 0QX

© COPYRIGHT 2006 ALL RIGHTS RESERVED HCAWHITLAND.CO.UK