|
|
| Ein Gwaith Mae’r Gymuned yn ennill ei bywoliaeth trwy wneud afrlladennau, a ddefnyddir wrth ddathlu ‘r ewcharist. Y mae gan bob aelod o’r Gymuned ryw gysylltiad â’r diwydiant hwn, ac fe anfonir yr afrlladennau I bob rhan o Brydain a thramor. Mae gennym hefyd westy bychan yn y fynachlog, lle croesewir encilwyr a rhai sy’n dod am ‘diwrnod tawel’. Rydym yn cadw gardd dawel ar gyfer gwesteion ac encilwyr, yn ogystal â gardd y gymuned yn y clwysty, sy’n cynhyrchu pot-pourri. Yn ddiweddar rydym wedi datblygu ‘polydwnel’ a gwely uchel, sydd bellach am yr ail dymor yn rhoi llysiau ffres a salad inni yn ystod misoedd yr haf . Mae gennym hefyd bum erw o goetir at ddefnydd
y Gymuned a gwesteion, ac ar hyn o bryd rydym yn ystyried y dewisiadau
ar gyfer datblygu ffynhonnell danwydd naturiol ar ein tir. Fe ariennir y gwaith yma'n rhannol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru drwy gynllun grant Coetiroedd Gwell i Gymru.
|
Holy
Cross Abbey, Whitland, Wales, SA34 0QX
© COPYRIGHT 2006 ALL RIGHTS RESERVED HCAWHITLAND.CO.UK